Dylai tai haf sydd ddim yn cael llawer o ddefnydd gael eu prynu gan gynghorau mewn ardaloedd lle mae prinder cartrefi, yn ôl undeb GMB.

Daw’r galwadau yn dilyn ymchwiliad sy’n dangos fod mwy na 170,000 o bobol yn berchen ar dai haf ym Mhrydain, gyda’r nifer mwyaf yng Nghymru a’r De Orllewin.

Mae bron i 30,000 o bobol yn berchen ar dai haf yng Nghymru, gyda 7,700 o’r rhain yng Ngwynedd.

“Mae’n rhaid i rywbeth gael ei wneud ar frys mewn rhai ardaloedd er mwyn canfod os yw’r tai haf yma yn cael eu defnyddio o gwbl,” meddai Paul Kenny, ysgrifennydd cyffredinol undeb GMB.

“Mae tai haf sydd ond yn cael eu defnyddio am rai wythnosau o’r flwyddyn tra bod teuluoedd yn gorfod aros mewn lletyau gwely a brecwast yn codi cwestiynau mawr am rôl a phŵer awdurdodau lleol.

“Rydym ni’n meddwl, o dan delerau’r Ddeddf Lleoliaeth, y dylai cynghorau lleol gael y pŵer i godi treth ar dai haf segur ac adeiladau gwag eraill,” ychwanegodd.

Gwynedd ar frig sawl rhestr

Mae mwy o dai haf yng Ngwynedd fesul person nag yn unrhyw sir arall yng Nghymru neu yn Lloegr.

Yn ôl ffigurau Cyfrifiad 2011, mae gan 64 o bobol dy haf yng Ngwynedd am bob 1,000 o bobol sy’n byw yn y sir.

Mae Gwynedd hefyd ymhlith y pedwar awdurdod lleol sydd â’r gyfradd uchaf o ail-dai, sy’n cynnwys tai haf, ail dai ar gyfer gwaith, a thai ar gyfer myfyrwyr.

Mae Ynys Môn, Sir Benfro a Cheredigion hefyd ymhlith y 15 awdurdod lleol gyda’r gyfradd uchaf o ail dai trwy Gymru a Lloegr.

Mae gan 1.5 miliwn o bobol yng Nghymru a Lloegr ail dy, sef 2.8% o’r boblogaeth.