Fe fydd coed newydd yn cael eu plannu yng Nghymru ac Affrica yr un pryd y mis hwn, fel rhan o gynllun sy’n trio dangos fod yr hyn sy’n digwydd yn y ddwy wlad yn cael effaith ar ei gilydd ac ar yr hinsawdd.

Ddydd Sul, Tachwedd 25, fe fydd coed yn cael eu plannu yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, a hefyd ar lethrau Mynydd Cenia yn Affrica.

Mae’r digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin yn rhan o brosiect ‘Coedwig Jiwbilî’ Ymddiriedolaeth y Coetir, sy’n amcanu at blannu chwe miliwn o goed ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod 2012. Enw’r goedwig newydd fydd Coedwig Nantglir.

“Fe fydd mynediad i’r Ardd am ddim y diwrnod hwnnw, ar gyfer y plannu,” meddai Simon Goodenough, Curadur yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

“Mae digon o waith gyda ni, gan fod 22,000 o goed i’w plannu! Mae amrywiaeth gyfoethog hefyd o goed brodorol – bedw, poplys, gwern, helyg, ynn a derw.”

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth y Coetir ym mhartneriaid o Faint Cymru, sydd yn gweithio gyda phobl yng Nghymru i helpu gwarchod ardal o goedwig drofannol maint ein gwlad ni.  Mae Maint Cymru yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth y Coetir i baru digwyddiadau plannu yng Nghymru gyda phlannu yn Affrica.