Rhodri Evans a chriw Fferm Ffactor
Rhodri Evans, 36 o ardal Y Bala, hawliodd fuddugoliaeth gyntaf cyfres Fferm Ffactor 2012 mewn her ar faes Y Sioe Frenhinol.

Bydd Rhodri yn dychwelyd i’w fferm fynydd yn Y Parc gyda’r wobr, sef beic fferm ATV gwerth £7,800 gan Honda.

Ar brynhawn Mawrth, 24 Gorffennaf, roedd cyfle i ymwelwyr â’r Sioe gwrdd â deg ffermwr Fferm Ffactor 2012.

Roedd tri ohonyn nhw hefyd wedi eu dewis i gystadlu am y beic Honda mewn tasg gyrru beic fferm.

Dyma oedd yr ail dro i Rhodri wynebu her Fferm Ffactor yn Y Sioe, o flaen torf o filoedd.

“Roedd y nerfau y tro yma yn waeth na’r llynedd dwi’n amau,” meddai Rhodri, a oedd yn un o’r cystadleuwyr a gafodd eu hanfon adref cyn dechrau’r gyfres y llynedd yn dilyn tasg byw yn Y Sioe.

“Roedd o’n gymaint o siom y llynedd wrth orfod darfod y siwrnai cyn dechrau bron. Wrth drio Fferm Ffactor eto eleni dwi fel taswn i wedi rhoi fy hun ar bedestal ac yn meddwl os na wnâi’n dda eleni yna bydd gen i waith esbonio i’w wneud!”

Yn cystadlu yn erbyn Rhodri am y beic Honda roedd Robin Williams o Dudweiliog, Pen Llŷn a Dilwyn Owen o Lanedwen, Ynys Môn.

Dywedodd Rhodri nad oes yn siwr a fyddai ei fuddugoliaeth yn hwb i’w hyder wrth gystadlyn yng nghyfres nesaf Fferm Ffactor, sy’n dychwelyd i’r sgrin ym mis Hydref.

“Dwi ddim wedi meddwl amdano fo fel yna, ond dwi’n gobeithio os medra i wneud yn dda yn y tasgau dreifio a’r rhai ymarferol yna bydd o’n gwneud i fyny am y cwestiynau yn y gader achos dwi’n meddwl mai’r adeg hynny byddai’n diodde’,” meddai.