Mae Scottish And Southern Energy yn dechrau ymgynghori ar fwriad y cwmni i adeiladu fferm wynt fawr ar ucheldir gogledd Ceredigion.

Mae SSE Renewables am godi 62 tyrbein yn fferm wynt Nant y Moch a fydd yn edrych dros un o feysydd brwydr enwocaf Cymru. Yn sgil buddugoliaeth Owain Glyndŵr yn Hyddgen yn 1401 lledodd gwrthryfel Glyndŵr i ganolbarth a de Cymru ac mae Cerrig Cyfamod Glyndŵr, sy’n dynodi maes y gad, ar dir y fferm wynt sy’n cael ei chynnig.

Yn ôl SSE Renewables bydd fferm wynt Nant y Moch  yn medru cyflenwi digon o drydan mewn blwyddyn i gyflenwi 65,000 o gartrefi, ond mae gwrthwynebiad wedi bod i’r datblygiad.

“Nid oes safle sy’n haeddu cael ei diogelu’n fwy, na chynnig sy’n haeddu cael mwy o wrthwynebiad,” meddai Cymdeithas Mynyddoedd y Cambria.

Mae’r Aelod Seneddol lleol, Mark Williams, hefyd wedi lleisio ei wrthwynebiad i’r datblygiad.

Mae SSE Renewables yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio yn yr hydref, gyda’r nod o ddechrau adeiladu yn 2014 a chael y fferm wynt i weithio’n llawn erbyn canol 2018.

Archwiliad cyhoeddus i ddwy fferm wynt ym Mhowys

Mae Adran Ynni Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd archwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i geisiadau i godi fferm wynt yn Llanbadarn Fynydd ger Llandrindod a Charnedd Wen ger Llanbrynmair.

Bydd yr archwiliad i’r ddau gais yn cael ei gynnal ar y cyd ar ôl i gynghorwyr Powys wrthwynebu’r ceisiadau gan gwmnïau Vattenfall a RWE npower. Yr Adran Ynni yn Llundain fydd yn penderfynu ar y ceisiadau gan y byddan nhw’n cynhyrchu dros 50mw o drydan.

Mae disgwyl i’r Archwiliad Cyhoeddus ddechrau yng ngwanwyn 2013.