Tywysoges Frenhinol
Bydd y Dywysoges Frenhinol yn rhoi ei ‘sêl cymeradwyaeth’ ar brosiect creadigol mewn Eglwys ganol dinas Caerdydd i drawsnewid tir gwyllt i fod yn ardd i’r holl gymuned.

Bydd y Dywysoges Frenhinol yn ymweld â Gardd Gymunedol Sant Pedr yn y Tyllgoed, Caerdydd  wythnos nesaf i weld sut y daeth gwirfoddolwyr o fwy na 15 corff lleol ynghyd i drawsnewid erw o dir prysg yn ardd a gwarchodfa natur.

Gweledigaeth Ian Thompson, gŵr lleol, oedd yr ardd a chafodd ei benodi’n rheolwr y prosiect gan y ficer, y Tad Colin Sutton.

Ymhlith y cyfranwyr mae timau o droseddwyr ifanc, pobl gydag anableddau dysgu a phlant o’r ysgol gyfagos. Maen nhw wedi bod yn torri drwy fieri i greu “hafan dawel sy’n cynnwys lawnt, pwll, gardd lysiau a pherllan fechan yn cynnwys coed treftadaeth Gymreig,” meddai’r Eglwys.

“Bu ein hymwneud gyda’r gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o’r prosiect sydd yn gymaint am y bobl ag am y tir,” meddai’r Tad Colin Sutton.

“Rydym wedi medru ymestyn allan i’r gymuned leol a’r gymuned ehangach drwyddyn nhw. Gall pawb fedi’r manteision wrth iddynt fwynhau’r gofod tawel yma ac ymateb i’r cyfle parhaus i ofalu a datblygu’r ardd a’r cynefin naturiol,” meddai.

Fe gafodd ymweliad y Dywysoges Anne ei drefnu gan Coed Cadw a gyfrannodd goed ar gyfer perth yn yr ardd fel rhan o Brosiect Coed Jiwbilî, i nodi Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.

Bydd y Dywysoges Frenhinol yn ymweld â’r prosiect ddydd Mercher, 16 Tachwedd am 1pm.