Mae rhannau o Lwybr Arfordir Ceredigion wedi’u cau dros dro yn sgil y pandemig coronafeirws.

Bydd y llwybrau cyhoeddus yn cael eu cadw ar gau nes mae awdurdodau yn credu ei bod hi’n saff i’w hail-agor.

Y rhannau sydd wedi cau dros dro yw;

  • Aberystwyth – Clarach
  • Aberaeron – Aberarth
  • Aberarth – Llanon
  • Aberporth – Tresaith
  • Aberteifi
  • Borth – Tre Taliesin
  • Clarach – Borth
  • Cwmtydu – Ceinewydd
  • Gwbert – Mwnt
  • Llangrannog – Urdd
  • Llanina – Aberaeron
  • Llanon – Llanrhystud
  • Llanrhystud – Tan y Bwlch
  • Mwnt – Aber-porth
  • Ceinewydd – Llanina
  • Penbryn – Llangrannog
  • Tresaith – Penbryn
  • Urdd – Cwmtydu

Mae gweddill rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus Ceredigion yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae Cyngor Sir Ceredigion annog unrhyw un sy’n mynd i gefn gwlad i wneud hynny’n gyfrifol, yn barchus ac i ddilyn cyngor y Llywodraeth.

Maent hefyd am  i’r cyhoedd gadw draw o leoliadau a llwybrau a allai fod yn brysur neu’n agos at dai, gerddi ac iardiau ffermydd.