Ymgais  i “ddathlu arwahanrwydd” ardal wledig Gymraeg ar gyrion dinas Abertawe yw cerddi’r bardd, Dyfan Lewis, sy’n pryderu am y newid fydd yn dod i ran bro ei febyd o fewn “y degawd neu ddau nesaf”.

Yn ôl y bardd ei hun, mae ardal Mawr, sy’n cynnwys cymunedau Cefn Craig Parc a Felindre, yn “anomoli”.

“Mae’n ardal lle mae 38% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg; mae’n ardal wledig hefyd,” meddai Dyfan Lewis wrth golwg360.

“Yn anffodus, mae ein naratifau ni ynghylch Cymru ddim o reidrwydd yn galluogi ocsigen i lefydd fel hyn i fodoli, achos rydych chi naill ai yn y de diwydiannol Saesneg neu yn y gorllewin neu’r gogledd amaethyddol Cymraeg gyda rhai pobol.”

Pryder am newid

Yr hyn a ysgogodd Dyfan Lewis i ddwyn ei gerddi ynghyd yn y pamffled Mawr a Cherddi Eraill, sydd hefyd yn cynnwys darluniau gan ei chwaer, Esyllt Angharad, oedd y newyddion bod eu hen ysgol gynradd yn Felindre yn cau.

Mae’r brawd a’r chwaer hefyd ar fin colli eu cysylltiad teuluol â’r ardal, wrth i’w rieni symud i fyw yn y gorllewin, lle mae eu tad, y Prifardd Emyr Lewis, wedi ei benodi’n bennaeth ar Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r cerddi felly yn “nodi’r cysylltiad” rhwng y ddau ac ardal eu magwraeth, yn ogystal â chyflwyno darlun o fel y mae hi heddiw.

“Dyw [ardal Mawr] ddim wedi newid rhyw lawer; mae’n dal i fod yn gymuned Gymraeg,” meddai Dyfan Lewis, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

“Ond dw i’n poeni o fewn y degawd neu ddau nesaf y bydd hi’n newid i fod yn faestref o Abertawe.

“Bydd natur y gymuned yn newid, oherwydd fe fydd pobol ddim yn gweld y gymuned fel rhywbeth ar wahân i Abertawe, ac yn jyst yn ei gweld hi fel rhywle i barcio’u car a mynd iddi ar ôl diwrnod yn gweithio yn y ddinas.”

Dyma glip sain o Dyfan Lewis yn adrodd y gerdd ‘Sgwrs’…