Yr awydd i roi ei chaneuon ei hun a hanesion lleol a theuluol “ar glawr”, yn ogystal â “gweu’r cyfan ynghyd”, oedd y prif ysgogiad i Frenhines Canu Gwlad Cymru fynd ati i sgrifennu ei hunangofiant.

Ers cyhoeddi ei record unigol gyntaf, Y Storm, hanner can mlynedd yn ôl, mae Doreen Lewis wedi ymddangos droeon ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt yn diddanu cynulleidfaoedd, a hi yw’r unig ferch yn hanes y byd canu pop Cymraeg i dderbyn disg aur am ei chyfraniad oes i adloniant.

Mae Merch o’r Wlad yn rhoi sylw canolog i rai o ganeuon enwocaf y wraig fferm o Dihewyd, yn cynnwys ‘Sgidie Gwaith Fy Nhad’, ‘Cae’r Blodau Melyn’ a ‘Nans o’r Glyn’.

Mae’r caneuon hyn yn bwysig, yn ôl Doreen Lewis ei hun, gan eu bod nhw’n cynrychioli gwahanol gyfnodau yn ei bywyd personol.

“Dw i wedi sgrifennu caneuon ers o’n i’n rhyw 15 oed, ac mae’r caneuon yn mynd ymlaen fel y mae fy mywyd yn mynd yn ei flaen,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw’n sôn am wahanol bethau, fel hanesion lleol a theulu…”

Canu Gwlad?

Fel sy’n cael ei nodi yn ei hunangofiant, mae canu a pherfformio wedi bod yng ngwaed Doreen Lewis ers yn ifanc iawn, a chafodd gyfle i ddilyn ei helfen yn yr ysgol gynradd yn Felin-fach, a thrwy gyfrwng cyrddau cystadleuol lleol a mudiadau’r Urdd a’r Ffermwyr Ifanc.

Ond er cael ei labelu’n gantores gwlad yn ddiweddarach, doedd gan y wraig fferm o Ddihewyd erioed fwriad i gael ei chysylltu â’r math penodol hwnnw o ganu.

“Fe wnes i erioed godi’r bore a dweud, ‘reit, dw i’n mynd i ganu gwlad heddi,” meddai. “Mae e’n rhyw pigeon hole dw i wedi cael fy rhoi ynddo.

“Ond efallai ei fod e’n gywir achos i fi, merch o’r wlad ydw i, a dyna beth dw i’n gwybod amdano.

“Dw i jyst yn canu am beth dw i’n teimlo fel canu, ac os mai canu gwlad yw e, neu ganu gwerin, wel mae hynny’n ddigon teg.”

Dyma glip sain o Doreen Lewis yn darllen un o benodau Merch o’r Wlad