Y bore yma darlledwyd rhaglen arbennig o ‘Galwad Cynnar’ ar Radio Cymru yn dathlu pum mlynedd ar hugain.

Daeth llu o westeion a ffrindiau’r rhaglen i orsaf y BBC yn Bryn Meirion, Bangor i ddathlu gyda’r darlledwr Gerallt Pennant a oedd am i bob un o’r cyfranwyr gynnig eitem a fyddai yn cael ei ychwanegu i gapsiwn amser dychmygol.

Mae’r rhaglen boblogaidd wedi denu llu o wrandawyr selog dros bum mlynedd ar hugain. Mae yna lyfr wedi’i gyhoeddi yn dathlu hynny hefyd.

Mae’r rhaglen yn cael ei darlledu ar foreau Sadwrn.e Crdded mynyddoedd, sgio, a garddio yw diddordebau mawr y cyflwynydd Gerallt Pennant.