Creu llestri allan o wlân Cymreig

 
Cawgiau a bowlenni gan Ellie Derbyshire wedi'u gwneud o wlân Cymreig.

Cawgiau a bowlenni gan Ellie Derbyshire wedi’u gwneud o wlân Cymreig

Llun trwy law stâd y Rhug

Mae artist o Sir Ddinbych wedi creu cawgiau a bowlenni gan ddefnyddio gwlân dafad.

Mae Ellie Derbyshire o Hafotty Interiors yn defnyddio gwlân o stâd y Rhug ger Corwen i greu’r llestri unigryw.

Mae’r gwlân wedi cael ei gymryd o’r ddiadell o ddefaid Miwl Tiroedd y Gogledd sy’n cael ei chadw ar dir yr ystâd.

“Dw i’n mwynhau gweithio gyda deunyddiau naturiol ac mae gan wlân Rhug deimlad hyfryd,” meddai Ellie Derbyshire.

“Mae’r gwlân wedi bod trwy broses o baratoi cyn bod modd creu haenau ohono a’i osod gyda resin, er mwyn ei wneud i edrych fel mynyddoedd Cymru, sef yr hyn sydd wedi ysbrydoli’r darnau hyn.”

Bu’r artist hefyd yn gwneud darluniau o feision yr ystâd ar gyfer prosiect celf arall.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed