Mae Llywodraeth Cymru wedi llacio rhai o rwymedigaethau’r cynllun Glastir, er mwyn helpu ffermwyr a pherchnogion tir yn ystod y tywydd sych presennol.

Nod y cynllun yw cynnig cymorth ariannol i ffermwyr a pherchnogion tir ar gyfer gwella’r rheolaeth amgylcheddol o’u tir.

Ond yn dilyn cyfnod hir o dywydd sych yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod hawl gan ffermwyr anwybyddu rhai o’r rhwymedigaethau am gyfnod dros dro.

Mae hynny’n golygu bod deiliaid contract Glastir sydd ag opsiynau gweirglodd, bellach â’r hawl i ddechrau torri gweirgloddiau ar unwaith.

Mae yna opsiwn hefyd i’r ffermwyr hynny sydd â thir wedi’i effeithio gan dân i gael eu heithrio rhag cyflawni rhai o rwymedigaethau Glastir.

“Cefnogi ffermwyr”

 “Gall newidiadau yn y tywydd fod yn gryn her i ffermwyr wrth iddyn nhw ofalu am eu da byw a chynnal eu tir,” meddai’r Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Mae’n bwysig ein bod yn cymryd camau ar unwaith i gefnogi ffermwyr sy’n aelodau o’r Cynllun Glastir fel y gallan nhw liniaru effaith y cyfnod hir o dywydd sych, gan barhau i gyflawni eu hymrwymiadau Glastir yn y tymor hir.”