Y gwyddonydd a’r botanegydd, Goronwy Wynne, yw ennillydd categori ffeithiol greadigol Llyfr y Flwyddyn 2018, gyda’i gyfrol, Blodau Cymru: Byd y Planhigion (Y Lolfa).

Mae’r llyfr yn waith oes gyfan o ymchwil a llafur cariad, ac yn gyflwyniad i holl blanhigion Cymru, eu hanes, a hanes y rhai a fu’n chwilio amdanyn nhw.

Mae’r awdur o Sir Fflint yn trafod eu henwau, eu dosbarthiad a’u cynefinoedd, gan sôn hefyd am ecoleg y planhigion – y rhai cyffredin a’r rhai prin – gan ofyn pam fod “y peth a’r peth yn tyfu yn y fan a’r fan”.

Y ddau awdur arall ar y rhestr fer oedd Hefin Wyn (Ar Drywydd Niclas y Glais, Y Lolfa) ac Anne Elizabeth Williams (Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Y Lolfa).