Mae perthi’n cael eu plannu yn Ynys Môn er mwyn cynorthwyo poblogaeth o wiwerod coch sy’n byw yno.

Nod y perthi yw creu “coridor gwyrdd mawr” ar draws yr ynys er mwyn diogelu a hybu’r nifer o wiwerod coch.

Rhyw ddegawd yn ôl, dim ond 40 wiwer goch oedd ar yr ynys. Ond bellach, mae tua 700 yno, yn dilyn ymdrechion i ailgyflwyno’r creadur sydd dan fygythiad ledled gwledydd Prydain.

Mae plannu’r perthi yn rhan o brosiect y Goedwig Hir, sy’n gydweithrediad rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, ac Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru.

Mae’n rhan o gynllun ehangach sy’n dair blynedd o hyd, ac mae gwaith eisoes ar y gweill i greu cysylltiadau i wiwerod ledled yr ynys.

Perthi eraill

Mae un perth 150m eisoes wedi’i blannu gan wirfoddolwyr yng Nghoed Llwynonn, ac os bydd y cynllun yn cael caniatâd, fe fydd yn cysylltu â phont i wiwerod a fydd yn fodd iddyn nhw groesi’r A4080 yn ddiogel er myn cyrraedd y coed ym Mhlas Newydd.

Bydd hyn wedyn yn golygu bod yna gyswllt uniongyrchol rhwng y coetir hwn a 400m o berthi sydd yn ei lle eisoes, ac mae gwirfoddolwyr wrthi yn eu hadfer ar hyn o bryd.

Ar ôl i’r gwaith hwn gael gwblhau wedyn, fe fydd yn goridor i goetir arall ym Mhlas Newydd, a fydd yn cysylltu â phont arall i wiwerod yn ôl dros yr A4080 i goetir arall yng Nghoed Llwynnon.

Y bwriad yw cyfannu’r cylch yn y flwyddyn nesaf trwy blannu 200m yn rhagor o berthi.