Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod tywydd oer ar y ffordd i wledydd Prydain.

Fe fydd gwyntoedd oer o gyfeiriad y dwyrain yn taro gwledydd Prydain – gyda disgwyl i’r cyfnod oer bara tan o leiaf fis Mawrth.

Mae’r Swyddfa Dywydd felly’n dweud na fydd y tymheredd uchel o 14 gradd selsiws sydd i’w ddisgwyl ddydd Mercher, yn para am gyfnod hir, gyda’r tymheredd yn gyffredinol yn gostwng “yn raddol” wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen.

Yn ôl y rhagolygon nid yw rhagor o eira yn debygol ar gyfer yr wythnos hon, ond fe allai hynny newid ar ôl y penwythnos.