Elen Jones-Evans
Yn ôl Cymraes sy’n gweithio yn y byd amaeth yn yr Eidal, mae ffermwyr y wlad honno’n rhannu’r un pryder am yr economi â ffermwyr Cymru.

Mae rhaglen Ffermio ar S4C heno’n ymweld â Dr Elen Jones-Evans, sy’n wreiddiol o Landyrnog ger Rhuthun ond sydd bellach yn byw a gweithio yn yr Eidal.

Mae Elen bellach yn gweithio fel arbenigwr ar feithrin a thyfu Melonau newydd i gwmni Monsanto Vegetable Seeds yn Nettuno, ger Rhufain yn yr Eidal.

Mae Elen sy’n 34 oed, yn byw yn Yr Eidal ers dros ddegawd, yn briod gydag Eidalwr Matteo Mazzi ac mae ganddynt ferch ddwy oed, Alaw Mazzi.

Pris y farchnad yn amrywio

Er y dywed bod y diwylliant a’r ffordd o fyw yn yr Eidal yn hollol wahanol i Gymru, mae Elen Jones-Evans yn dweud bod yr un pryder economaidd yn bodoli yno ar hyn o bryd.

“Mae’r sefyllfa economaidd bresennol yn cael effaith fawr ar bris mae’r ffermwr yn ei dderbyn am y cynnyrch” meddai.

“Nid ydynt yn gallu rhagweld pris y farchnad gan ei fod yn amrywio llawer.”

“ Mae nifer o ffactorau eraill heblaw’r cyflwr economaidd yn effeithio’r pris, fel straeon negyddol yn y cyfryngau am gynnyrch, fel y digwyddodd gyda’r ciwcymbyrs yn Yr Almaen a thywydd gwael” ychwanegodd.

Mwynhau’r sialens

Gwnaeth Elen ddoethuriaeth mewn Geneteg Amaethyddol ym Mhrifysgol Parma ar ôl graddio mewn Bioleg Amgylcheddol ac Eidaleg ym Mhrifysgol Abertawe.

Wedi ennill ei doethuriaeth aeth ymlaen i weithio gyda chwmni prosesu tomatos yn Parma, lle’r oedd yn cynnal profion ar y cynnyrch yn ystod y broses ac ar y cynnyrch gorffenedig

Roedd gan Elen ddiddordeb mawr yn y camau cyn i’r tomatos gyrraedd y ffatri, ac fe ddaeth y cyfle i roi’r wybodaeth ar waith trwy wneud gwaith ymchwil ar y melonau.

Yna, daeth cyfle i ehangu’r gwaith a defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf wrth weithio i Monsanto Vegetable Seeds fel Bridiwr Melonau.

“Rwy’n mwynhau’r gwaith yn fawr iawn oherwydd ei fod yn amrywiol iawn ac yn sialens fawr gan fy mod yn gorfod datblygu cynnyrch addas ar gyfer gwahanol segmentau marchnadoedd fel tai gwydr, caeau lleol ac yn y blaen.”

“ Mae’r swydd yn her fawr gan ei bod yn golygu defnyddio gwahanol fathau o wybodaeth, gan gynnwys Agronomeg, Geneteg, Patholeg Planhigion a Data’r Farchnad” meddai Elen Jones-Evans.

Bydd cyfle i weld gohebydd Ffermio, Terwyn Davies yn dilyn Dr Jones-Evans wrth ei gwaith bob dydd yn y rhaglen Ffermio sy’n cael ei darlledu am 20:25 heno.