Tân
Mae 60 tunnell o wair wedi ei symud gyda bwldosar er mwyn ceisio rheoli tân mewn adeilad fferm yn oriau mân fore heddiw.

Fe ddefnyddiodd yr ymladdwyr tân y peiriant mawr i symud y deunydd ymfflamychol o adeilad yn Brambles Farm, ger Frome yng Ngwlad yr Haf.

Roedd yn rhaid iddyn nhw symud y gwair er mwyn rhwystro’r tân rhag lledu i adeiliadau eraill y fferm.

Mae ymladdwyr tân yn dal yno, yn trio diffodd y fflamau’n llwyr.