Richard Moore-Colyer
Mae ffermwyr Cymru yn 2011 yn wynebu pwysau tebyg i’r pwysau oedd ar eu cyndeidiau yn y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd. Dyna mae cyfrol a fydd yn cael ei bwrw i’r byd yn ystod Sioe Fawr Llanelwedd yr wythnos nesa’, yn ei ddweud.

Yn y gyfrol Farming In Wales 1936-2011, mae’r awdur, yr academydd Richard Moore-Colyer, yn cydnabod bod gan ffermwyr yr 1930au fantais fawr dros ffermwyr heddiw – sef eu bod yn hunan-gynhaliol.

Mae ffermwyr heddiw yn wynebu pwysau gwahanol o’r alwad am reoli amgylcheddol, difaterwch y cyhoedd, a’r newidiadau mewn patrymau prynu bwyd yn dilyn degawdau o ddibyniaeth ar fewnforio.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cynnal arolwg o’r byd ffermio yng Nghymru ers 1936, ac fe’i cydnabyddir fel yr Arolwg pwysicaf o berfformiad ariannol amaethwyr yng Nghymru. Mae Richard Moore-Colyer yn gyn-Athro yn y brifysgol ac yn hanesydd lleol.

Dai Jones, Llanilar, sydd wedi ysgrifennu’r cyflwyniad i’r gyfrol a fydd yn cael ei lawnsio mewn digwyddiad arbennig ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth yn y Sioe Fawr, ddydd Mawrth, Gorffennaf 19, am 7 o’r gloch.