Gwasgaru cwrtaith (Wald1siedel CCA4.0)
Mae undeb ffermwyr wedi cynnig cynllun gwahanol i osgoi trefniadau newydd i geisio lleihau llygredd oherwydd nitrogen.

Mae NFU Cymru wedi ceisio achub y blaen ar gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru gan eu rhybuddio rhag ymestyn ardaloedd lle mae cyfyngiadau ar ddefnydd o wrtaith nitrogen a dom neu dail.

Maen nhw’n dweud y byddai’r mesurau i gynyddu nifer yr Ardaloedd Bregus o Ran Nitrogen (NVZ) yn creu costau i ffermwyr ac yn gwneud niwed i economi ardaloedd gwledig.

Eu hofn yw y bydd canran daear Cymru sydd mewn ardaloedd o’r fath yn cynyddu o 2.4% i 8% neu y bydd y cyfyngiadau’n ymestyn tros y wlad gyfan.

Nod yr Ardaloedd Bregus yw diogelu dŵr croyw rhag effeithiau nitrogen amaethyddol.

‘Difrod mawr’

Ar drothwy Sioe Laeth Cymru heddiw, fe ysgrifennodd yr Undeb at yr Ysgrifennydd Amaeth, Lesley Griffiths, yn gofyn iddi ystyried dewis arall – cynllun gwahanol sydd wedi ei dreialu gan ffermwyr yn Sir Benfro.

“R’yn ni’n glir y bydd dynodi ardaloedd newydd yn cael effaith sylweddol ar fusnesau ffermwyr ac yn taro economi wledig yr ardaloedd hynny yn galed,” meddai Llywydd NFU Cymru, Stephen James.

“Mae’r costau sydd ynghlwm werth weithredu hyn  yn llawer mwy na’r bendithion o ran ansawdd dŵr.”

Fe fyddai’r system sy’n cael ei chynnig gan NFU Cymru’n golygu bod ffermwyr yn gwneud iawn am eu defnyddo nitradau.

  • Bron flwyddyn yn ôl, fe ddechreuodd Llywodraeth Cymru ymgynghori ynglŷn â’u cynigion, i gynyddu nifer yr ardaloedd i gynnwys 8% o ddaear Cymru neu i osod cyfyngiadau tros y wlad i gyd.