Gwenynen fêl (Llun: Nick Moylan)
Yn sgil haf gwlyb a chyfres o stormydd diweddar, mae gwenynwr o Ynys Môn wedi rhybuddio y gallwn ddisgwyl “gaeaf hir” ac anodd i wenyn yng Nghymru.

Daw ei sylw yn sgil adroddiad sydd yn awgrymu bod cwymp hir dymor wedi bod yn y mêl sydd yn cael ei gynhyrchu gan wenynwyr ym Mhrydain.

Mae’n debyg yr oedd cychod ar gyfartaledd yn tueddu i gynhyrchu 50-100 pwys o fêl yn y 1950au ond bellach yn ôl Cymdeithas Gwenynwyr Cymru, mae’r ffigwr llawer is yng Nghymru – 17.8 pwys.

Mae Katie Hayward yn rhedeg cwmni Felin Honeybees ac yn nodi ei bod wedi gwneud £100 yn llai o elw ar ei chychod gwenyn eleni – mae modd gwneud elw o £17 o bob pwys o fêl.

Er bod ambell i gwch gwenyn wedi cynhyrchu tipyn o fêl iddi eleni – yn bennaf oherwydd eu bod wedi lleoli ger dolau sy’n llawn bwyd – mae Katie Hayward yn nodi fod y tywydd yn destun pryder.

Agosáu at Aeaf

“Mae’r tywydd wedi bod naill a’i yn wlyb neu’n wyntog trwy’r tymor hel bwyd,” meddai wrth golwg360. “Felly ar adeg pan oedd ein gwenyn ar eu prysuraf, mi roedd y tywydd yn rhy wael iddyn nhw hel bwyd.”

“Daeth y stormydd ar ddiwedd tymor eithaf anodd. Y broblem yw bod ni’n agosáu at y Gaeaf ond mae hi’n eitha’ cynnes o hyd. Mae hynna’n golygu bod y gwenyn o hyd yn bridio ond mae angen neithdar a phaill arnyn nhw. Rydym wedi gorfod dechrau eu bwydo yn gynharach na’r arfer.”

Brexit a chacwn

Yn ogystal â phryderu am y tywydd mae Katie Hayward, fel nifer o wenynwyr eraill, yn ofni am heriau plaladdwyr a thrychfilod sydd yn lladd gwenyn.

Mae astudiaeth Cymdeithasau’r Gwenynwyr Prydeinig yn awgrymu bod dau draean (62%) o wenynwyr yn pryderu am blaladdwyr tra bod 28% â phryderon am y Cacwn Asiaidd.

“Mae ein gwenyn mewn perygl yn barod,” meddai wrth golwg360.“Mae pob math o heriau ar ein stepen ddrws.”

“Nid yn unig cynhesu byd eang ond Brexit hefyd. Mi fydd mewnlifiad mawr o blaladdwyr. Ac ar ben hyn i gyd mae’r Gacynen Asiaidd wedi cyrraedd hefyd.”