Mae’r corff sy’n gyfrifol am farchnata cig o Gymru wedi cael hwb ychwanegol o £1.5m gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cysylltiadau allforio.

Daw cyhoeddiad Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wrth i Hybu Cig Cymru (HCC) gynnal arddangosfa yn sioe fasnach fwyd Anuga yn ninas Cologne yn yr Almaen.

Mae’r arian wedi’i ddyrannu dros gyfnod o dair blynedd yn rhan o raglen datblygu allforion fydd yn dechrau ym mis Ebrill 2018.

Ac mae Prif Weithredwr y corff, Gwyn Howells, wedi croesawu’r newyddion “yng ngoleuni’r ansicrwydd a ddaw yn sgil y Refferendwm [ar adael yr Undeb Ewropeaidd].”

‘Elfen allweddol’

“Serch amwyster Brexit, gwelwn dwf yn y fasnach dramor am gig coch Cymru a bydd y Rhaglen Datblygu Allforion Uwch yn bwrw iddi ac yn helpu’r sector i ymbaratoi ar gyfer y dyfodol,” meddai Gwyn Howells.

“Mae HCC, ar y cyd â’n proseswyr mawr a Llywodraeth Cymru, wedi llwyddo i gynyddu masnach yn Ewrop. Rhaid sicrhau llwyddiant cig coch Cymru a pheidio â’i roi yn y fantol.

“Bydd y cyllid hwn yn elfen allweddol wrth sicrhau hirhoedledd y sector yn y marchnadoedd allforio,” ychwanegodd.