Laure Genonceaux
Mae cogyddes o Wlad Belg wedi ei choroni yn gogyddes y flwyddyn ar ôl coginio pryd oedd yn cynnwys cig oen o Gymru.

Llwyddodd Laure Genonceaux a choginio gwledd tri chwrs, gyda thri gwahanol doriad o gig oen Cymreig ynghyd â samosas Asiaidd yn ganolbwynt i’w chais buddugol.

Dyma’r 27ain tro i gystadleuaeth ‘Cogyddes Chaudfontaine y Flwyddyn’ gael ei chynnal yng Ngwlad Belg, ac mae’n cael ei noddi gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Fe fydd Laure Genonceaux yn defnyddio cig oen o Gymru yn ei bwyty ym Mrwsel yn sgil ei buddugoliaeth.

“Llongyfarchiadau cynnes” o Gymru

“R’yn ni’n falch iawn o gydweithio â chystadleuaeth Cogyddes y Flwyddyn eto a hoffwn estyn llongyfarchiadau cynnes i Laure ar ei buddugoliaeth,” meddai Deanna Leven, Swyddog Allforio Hybu Cig Cymru.

“Mae Cig Oen Cymru PGI yn gynnyrch naturiol o flasus a hyblyg a chanddo nifer o doriadau gwahanol a gafodd eu harddangos i’w potensial gan Laure.”