Lloyd Jones, gwneuthurwr rhaffau (Llun: golwg360)
Mae ffermwr o Geredigion wedi bod yn arddangos sut mae plethu rhaffau ers blynyddoedd, ond mae’n pryderu am ddyfodol y grefft.

Mae Lloyd Jones o Dalgarreg yn treulio’r haf yn mynd o gwmpas sioeau lleol i arddangos sut mae’n creu rhaffau ac mae wedi cynnal arddangosfeydd yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

“Mae pobol yn rhyfeddu at y grefft. Dydi llawer o bobol ddim yn gwybod sut mae rhaff yn cael ei chreu,” meddai.

Er hyn, dywed ei fod yn “poeni” oherwydd – “does dim llawer o bobol ifanc yn cymryd diddordeb. Mae perygl y bydd y grefft yn cael ei cholli.”

Enwau Cymraeg

Mae’r gŵr yn arbenigo ar greu clymau ac yn medru troi ei law at 134 o wahanol fathau o glymau.

Er hyn, mae un llyfr yn y Saesneg – Ashley Book of Knots – yn nodi 3,800 o wahanol glymau.

Dros y gaeaf, mae’r ffermwr yn gobeithio cwblhau llyfr sydd ar y gweill ganddo yn cofnodi’r gwahanol fathau o glymau a hefyd eu henwau Cymraeg.

“Mae llawer o lyfrau Saesneg ar sut i greu clymau, ond does dim un yn Gymraeg. Dw i’n trio cofnodi’r rhai dw i’n gwybod er mwyn cadw’r enwau Cymraeg yn ddiogel,” meddai.

Clymau

Mae Lloyd Jones yn esbonio ei fod yn creu rhaffau o ddefnydd sisal, cotwm neu blastig ac yn defnyddio offer gan gynnwys ‘tröwr rhaffau’ a ‘gwennol’ i gyfuno’r cortynnau yn rhaff.

Un o’r defnyddiau mwyaf poblogaidd y mae’n ei greu ydy coler neu ‘benwast’ i’w roi am bennau’r anifeiliaid i’w harwain.

Dyma fideo ohono’n dangos sut mae’n creu rhai o’r clymau…