Ffon fugal (Llun: o wefan Cymdeithas Brydeinig gwneuthurwyr ffyn)
Mae gŵr o Gonwy am weld mwy o bobol ifanc yn cymryd diddordeb yn y grefft o greu ffyn drwy gynnal gweithdai mewn colegau amaethyddol.

Ers ugain mlynedd a mwy mae Raymond Jones o Benmaenmawr wedi bod yn creu ffyn, ac mae hefyd yn Ysgrifennydd Cymdeithas Gwneuthurwyr Ffyn Gogledd Cymru lle mae’n agos at 100 o aelodau ganddyn nhw.

Mi fydd yn gosod stondin mewn amryw o sioeau yn ystod y flwyddyn ac, yn ôl Raymond Jones, “mae pobol yn rhyfeddu at sut rydan ni’n creu’r ffyn. Mae’n braf gallu dangos y grefft i bobol newydd.”

Ychwanegodd fod y gymdeithas yn cynnal gweithdai misol yng ngholeg amaethyddol Glynllifon hefyd  “i arddangos y grefft i’r genhedlaeth iau, fel ei bod yn parhau,” meddai wrth golwg360.

Creu’r ffyn…

Mae angen “amser ac amynedd” i greu ffon, yn ôl Raymond Jones, sy’n esbonio y bydd yn hel y coed o gwmpas y Nadolig i’w sychu erbyn y flwyddyn nesaf.

“Mae’n cymryd blwyddyn i’r pren sychu,” meddai gan esbonio y bydd yn creu tua 30 o ffyn bob blwyddyn gan ddefnyddio coed cyll yn bennaf. 

Mae’n arbenigo ar greu ‘ffon fugail’, ‘ffon fawd’ a ‘ffon farchnad’ a’r gwahaniaeth rhwng ‘ffon fugail’ a ‘ffon farchnad’, meddai, yw bod “trwyn ffon fugail yn mynd am allan, a ffon farchnad yn mynd am mewn.”

Er hyn ei brif ddiddordeb, meddai, ydy cerfio anifeiliaid ac adar o bob math ar eu ffyn.