Fferm wynt yn y môr
Mae cost cymorthdaliadau ffermydd gwynt yn y môr wedi disgyn i lefelau newydd, gan olygu eu bod yn is na phrosiectau ynni niwclear.

Ers 2015, mae cost y cymorthdaliadau wedi disgyn 50% mewn arwerthiant contractau gyda phris pŵer cynlluniau ffermydd gwynt yn y môr yn £74.75 megawatt yr awr (MWh) ar gyfer 2021/2022 a £57.50 MWh ar gyfer 2022/2023.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, fe fydd y prosiectau sydd wedi cael cynigion llwyddiannus am gontractau yn gallu cynhyrchu mwy na thri gigawatt o drydan – digon i gyflenwi trydan i 3.6 miliwn o gartrefi.

Mae’r canlyniadau’n dangos fod prisiau ffermydd gwynt yn y môr yn is nag ynni niwclear – gyda gorsaf bŵer Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf angen cymorthdaliadau o £92.50 MWh.

‘Asgwrn cefn ynni Prydain’

Yn ôl Caroline Lucas, arweinydd y Blaid Werdd, dylai’r canlyniadau hyn fod yn “hoelen olaf yn arch” ynni niwclear newydd.

“Tra bod pŵer gwynt glân a gwyrdd gyda’r potensial i dorri biliau pobol, mae ymrwymiad diddiwedd y Llywodraeth i ynni niwclear newydd yn peryglu ein cloi mewn prisiau uchel iawn am flynyddoedd i ddod,” meddai.

“Dylai’r Llywodraeth ymrwymo’n awr i’r dechnoleg hwn – a chynyddu buddsoddiad mewn ynni gwynt ar y môr fel ei bod yn dod yn asgwrn cefn ynni Prydain,” ychwanegodd.

‘Dyfodol carbon isel’

Dywedodd Richard Harrington, Gweinidog Ynni Llywodraeth Prydain – “bydd y sector gwynt yn y môr yn buddsoddi £17.5 biliwn yn y Deyrnas Unedig hyd at 2021 a bydd miloedd o swyddi newydd mewn busnesau Prydeinig yn cael eu creu gan y prosiectau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.”

Ychwanegodd y byddan nhw’n gosod cynlluniau i symud at “ddyfodol carbon isel” mewn cynllun “twf glân” fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.