Mae corff hybu cynnyrch o Gymru wedi croesawu “cynnydd sylweddol” yng ngwerth allforion cig oen o wledydd Prydain.

Yn ôl ystadegau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), mae gwerth allforion cig oen wedi cynyddu gan 25% – cyfanswm o £177.3m dros y chwe mis.

Mae disgwyl bod Cymru wedi elwa tipyn o’r cynnydd yma gan fod y wlad yn gartref i bron i draean o ddiadell gwledydd Prydain.

“Newyddion da” yw’r ffigurau yn ôl corff cig coch Hybu Cig Cymru (HCC), sydd yn nodi mai cyfradd is y bunt a galw cynyddol sydd yn gyfrifol am y cynnydd.

“Newyddion da”

“Yn ddi-os mae’r ffigurau yma’n newyddion da i ddiwydiant cig oen Cymru,” meddai Cadeirydd HCC Kevin Roberts.

“Mae’r lleihad mewn mewnforion o Seland Newydd i’w groesawu, ac yn dangos fod manwerthwyr Prydain yn ymateb i alw eu cwsmeriaid am gig o safon sydd wedi ei gynhyrchu gartref.”

 “Mae’r ystadegau allforio hefyd yn hwb sylweddol. Calonogol iawn, er enghraifft, yw gweld cynnydd o 29% mewn gwerthiant i’r Almaen, lle y bu HCC yn gweithredu rhaglenni marchnata llwyddiannus ar gyfer Cig Oen Cymru PGI o fewn y diwydiant arlwyo a gwasanaeth bwyd anferth sydd yno.”

Mae Kevin Roberts yn ychwanegu bod y ffigurau yn dangos bod y “rhan helaeth” o’r twf diweddar wedi dod o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, a bod angen diogelu masnach ddi-rwystr â’r undeb.