Llun gwneud o forlun llanw Abertawe
Mae arbenigwyr ar bysgodfeydd a chadwraeth wedi beirniadu asesiad diweddar i’r cynllun o adeiladu morlyn llanw’r môr yn Abertawe.

Yn ôl y cwmni Angling Trust & Fish Legal mae asesiad y cwmni Tidal Lagoon i effaith y morlyn ar rywogaethau o bysgod yn “annigonol” ac yn gwneud “rhagdybiaethau diffygiol.”

Mae Tidal Lagoon am gael trwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac mae eu hasesiad yn nodi y byddai’r effaith ar rywogaethau yn “ansylweddol”.

Ond mae Angling Trust & Fish Legal, sy’n cynrychioli sawl clwb pysgota yn ne Cymru, yn pryderu bod yr asesiad yn “gamarweiniol” ac yn “orhyderus”.

Maen nhw’n ychwanegu nad oes digon o wybodaeth wedi’i ddarparu am effaith y lagŵn ar rywogaethau o bysgod gan gynnwys eogiaid.

‘Adolygiad barnwrol’

Dywedodd Mark Lloyd, Prif Weithredwr Angling Trust & Fish Legal, fod yr asesiad yn “siomedig o wan.”

Ychwanegodd y byddai caniatáu trwydded gan “beidio ag ailasesu yn llawn” ar “ddata annigonol” yn arwain at “adolygiad barnwrol.”

Dywedodd na fyddai Fish Legal yn ymatal rhag cymryd “pa bynnag gamau sydd eu hangen i amddiffyn pysgodfeydd ein haelodau.”

“Does dim tystiolaeth ddibynadwy yn parhau i brofi y byddai morlynnoedd ddim yn achosi niwed amgylcheddol difrifol i un o amgylcheddau mwyaf pwysig a sensitif y wlad a’i stoc o bysgod sydd o dan fygythiad,” meddai.

CNC – ymgynghoriad arall

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud wrth golwg360 y byddan nhw’n awr yn cynnal ymgynghoriad arall cyn penderfynu a ddylai Tidal Lagoon gael trwydded forol ai peidio.

Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Polisi a Thrwyddedau CNC eu bod yn “cefnogi’r datblygiad” o greu ynni adnewyddadwy cynaliadwy.

“Mae’r datblygiad hwn yn gyntaf o’i fath yn y byd ac mae’r gyfradd a’r dechnoleg ynghlwm ag ef yn golygu fod pennu’r drwydded forol yn gymhleth.”

Dywedodd eu bod wedi derbyn tystiolaeth newydd gan Tidal Power ar Fehefin 30 a’u bod yn parhau i’w asesu.

“Am fod y wybodaeth newydd yn sylweddol wahanol i’r hyn sydd wedi’i ddarparu o’r blaen fe fydd angen inni gynnal ymgynghoriad arall gydag arbenigwyr technegol a grwpiau o ddiddordeb,” meddai Ceri Davies gan gyfeirio at Ganolfan Amgylchedd, Pysgodfeydd a Gwyddoniaeth Dyframaeth.

“Rydym yn parhau i ystyried y cais gan Tidal Power. Byddwn yn edrych ar yr holl dystiolaeth a’r ymatebion i’r ymgynghoriad a fydd yn pennu ein penderfyniad ar y drwydded forol.”

Morlyn llanw’r môr

  • Mae’r cynllun i ddatblygu’r morlyn yn parhau i fod yn ddibynnol ar gael cymhorthdal gan Lywodraeth Prydain i alluogi Tidal Lagoon Power i ddechrau ar y prosiect gwerth £1.3 biliwn.
  • Cafodd y morlyn gefnogaeth adroddiad Charles Hendry ym mis Ionawr eleni, ac o gael ei ddatblygu dyma fyddai’r morlyn cyntaf o’i fath yn y byd.