Defaid - un sector a allai gael ei effeithio'n ddrwg (Llun parth cyhoeddus)
Mae undeb ffermwyr wedi rhybuddio y byddai ‘Brexit caled’ a dileu tollau masnach yng ngwledydd Prydain yn “cael effaith ddychrynllyd” ar ffermio yng Nghymru.

Fe ddywedodd llywydd NFU Cymru fod ganddo “bryderon difrifol” am ddyfodol cynhyrchu bwyd ar ôl Brexit, yn enwedig os bydd gwledydd Prydain yn dileu tollau ond gwledydd eraill yn eu cadw.

Yn ôl Stephen James, fe fyddai’r byd amaeth a’r lles ehangach y mae’n ei wneud yn cael eu haberthu ar allor prisiau bwyd is.

‘Niwed difrifol’

Roedd Stephen James yn ymateb i adorddiad gan y Sefydliad Materion Economaidd a’r economegydd Patrick Minford, yn argymell y byddai dileu tollau’n golygu bod gwledydd Prydain ar eu hennill o £135 biliwn.

“Byddai ffermio’n cael ei niweidio’n ddifrifol wrth i fewnforion rhatach gael eu caniatáu tra bod ein hallforion yn parhau’n gaeth i dollau uwch dramor,” meddai Stephen James.

“Mae’r dadleuon hyn yn golygu dadansoddiad economaidd cul iawn sy’n methu â chydnabod manteision ffermio i’r cyhoedd y tu allan i ffiniau prisiau bwyd mewn siopau.

“Mae angen sector amaeth cynhyrchiol, proffidiol ac adeiladol ar y cyhoedd i barhau i gynnal a datblygu’r cefn gwlad y maen nhw’n ei werthfawrogi ac i ddarparu cyflenwad diogel a fforddadwy o fwyd cartref y gallan nhw ddibynnu arno.”

Eisiau perthynas ‘ddofn’

Fe alwodd Stephen James am “berthynas fasnachu ddofn” gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’n amlwg bod sector amaeth byrlymus ym Mhrydain yn bwysicach i’r cyhoedd na’r dadleuon cul o blaid mewnforion rhatach o dramor.”