Castell Coch (Llun: cityofcardiff.com)
Mae mwy na 1,200 o bobol wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw am ail-blannu’r coed o gwmpas Castell Coch, Caerdydd – cyn dechrau cynllun pedair blynedd i’w torri.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr wythnos ddiwethaf fod yn rhaid torri 4,000 o goed llarwydd yn Fforest Fawr, Tongwynlais am eu bod wedi’u heintio â chlefyd Phytophthora ramorum.

Er hyn, nid oes sôn am ail-blannu’r coed ar ddiwedd y cynllun, ac mae deiseb wedi’i sefydlu gan Anna McMorrin, Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd, yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i ail-blannu’r coed.

Mae’r ddeiseb yn nodi eu bod yn deall fod yn rhaid torri’r coed ond maen nhw’n apelio am ail-blannu o gwmpas y castell gan rybuddio na fyddai’r ardal “fyth yr un fath eto” heb y coed.

Clirio’r coed

Yn ol Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r clefyd, Phytophthora ramorum, yn effeithio ar tua 6.7 miliwn o goed llarwydd ledled Cymru, ac fe fydd y gwaith yn Tongwynlais yn dechrau ym mis Medi ac yn para tan 2021.

Fe fyddan nhw, er hynny, yn “annog rhywogaethau brodorol i atgynhyrchu’n naturiol”, a bod y rheiny’n cynnwys coed ffawydd, derw, bedw, ceirios gwyllt, criafol a chyll. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymu yn “monitro’r atgynhyrchu yn y goedwig am y blynyddoedd nesaf cyn ystyried a fydd angen ail-blannu”.

Dywedodd Gareth Roberts, Rheolwr Ardal Leol CNC ei bod hi’n “drist ein bod yn gorfod clirio’r coed, ond rydym yn gwybod bydd y goedwig yn parhau i fod yn lle gwych i bobl ymweld â hi yn y dyfodol.”