Mae trefnwyr Sioe Sir Benfro wedi cadarnhau fod un o’r meysydd parcio wedi cau o ganlyniad i amodau gwlyb y ddaear.

Roedd y maes parcio dan sylw yn cael ei ddefnyddio gan rai sy’n arddangos cŵn, stiwardiaid, beirniaid, aelodau a llywyddion y sioe.

Maen nhw’n cael eu hannog yn awr i barcio yn y meysydd parcio cyhoeddus sydd ar ddaear galed.

Godro robotaidd

Un o brif atyniadau’r sioe sy’n cael ei chynnal dros y tridiau nesaf yn Hwlffordd yw arddangosfa o system odro robotaidd.

Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad godro cyhoeddus ar raddfa fawr gael ei gynnal mewn sioe yng Nghymru, ac fe fydd deugain o wartheg yn cael eu godro ar faes y sioe dros y dyddiau nesaf.

Mae’r peiriant gan y cwmni Lely wedi’i ddatblygu i adnabod data’r gwartheg gan olygu fod modd eu godro ar unrhyw adeg heb gymorth person, sy’n golygu nad oes rhaid eu godro ar amser penodol.

Sioe Môn

Mae Sioe Môn, sy’n cael ei galw ‘Primin Môn’, hefyd wedi dechrau heddiw ac yn parhau tan yfory.

Nid oes adroddiadau am drafferthion parcio wrth i’r sioe gael ei chynnal ym Mona, lle’r oedd ymwelwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael eu hannog i barcio’r wythnos diwethaf.