Victoria Shervington-Jones, Ffermwraig y Flwyddyn
Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru) wedi cyhoeddi enw enillydd cystadleuaeth ‘Ffermwraig y Flwyddyn 2017’.

Mae Victoria Shervington-Jones yn dod o Lansanffraid Gwynllŵg, ger Casnewydd ac yn berchen ar gwmni o’r enw ‘Country Fresh Eggs’ sydd yn gwerthu wyau maes.

Mae’r ffermwraig yn ymweld ag ysgolion er mwyn dysgu plant ynglŷn â ffermio, yn cyfrannu at weithgareddau Clwb Ffermwyr Ifanc Maendy, ac yn aelod o Bwyllgor Sioe Morgannwg.

Hon yw 21ain flwyddyn y gystadleuaeth sydd yn dathlu cyfraniad menywod yn niwydiant amaethyddiaeth ac sy’n cael ei chynnal ar y cyd â Chymdeithas Adeiladu Principality.

“Esiampl wych i fenywod”

“Rydw i’n falch iawn i gyhoeddi mai Victoria yw Ffermwraig y Flwyddyn yng Nghymru,” meddai Is-Lywydd NFU Cymru, John Davies.

“Mae hi’n esiampl wych i fenywod sydd yn ffermio ac mae hi’n ymdrechu 110% a phopeth.

“Mae’n glir bod Victoria o hyd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella ei busnes er mwyn ei wneud yn gynaliadwy yn bell i’r dyfodol.

“Mi wnaeth Victoria ymateb yn gyflym i’r helynt â ffliw adar… mi wnaeth hi dawelu meddyliau ei chwsmeriaid trwy ddosbarthu pamffledi.”