Sioe Fawr 2017 (Llun: golwg360)
Ni fydd y Sioe Fawr yn cyhoeddi faint o bobol sydd wedi ymweld â’r Maes yn Llanelwedd eleni.

Mae’r sefydliad yn honni nad yw “ffigurau presenoldeb” yn llwyr adlewyrchu llwyddiant y sioe, ac yn mynnu mai lefel “boddhad” ymwelwyr sydd bwysicaf.

“Nid y ffordd orau o fesur llwyddiant yw ffigurau presenoldeb – rydym wedi cydnabod hyn ers peth amser,” meddai’r Sioe mewn datganiad i golwg360.

“Rydym yn falch bod ein sioe yn cael ei hystyried i fod yn un o’r digwyddiadau gorau o’i fath yn Ewrop. Mae hyn yn bennaf oherwydd boddhad ein hymwelwyr, yn hytrach na’r nifer o bobol sydd yn ymweld bob dydd.”

Mae’r Sioe Frenhinol yn nodi bod 98% o ymhelwyr wedi graddio’r sioe â phedair neu bum seren; a bod 69% yn teimlo eu bod wedi cael gwerth eu harian.

Ffigurau

Fe aeth 236,758 o bobol trwy gatiau’r Sioe Fawr yn Llanelwedd yn 2016;

Roedd hyn yn ostyngiad o 2% o gymharu â nifer ymwelwyr 2015, pan gafwyd 242,726 – y nifer uchaf erioed – o ymwelwyr â’r Sioe Fawr.