Ar goll - James Corfield (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae’r chwilio’n parhau yn ardal y Sioe Fawr am James Corfield o Drefaldwyn.

Does neb wedi gweld y ffermwr 19 oed ers nos Lun, ac roedd hynny yn nhafarn y White Horse yn Llanfair-ym-Muallt. 

A heddiw, mae ei fodryb, Gill Corfield, wedi apelio ar i’r cyhoedd rannu lluniau o’i nai, er mwyn ceisio dod o hyd iddo’n ddiogel.

“Rydan ni’n apelio am help y cyhoedd er mwyn dod o hyd i James,” meddai o’r maes yn Llanelwedd.

“Roedd o yn Llanfair-ym-Muallt, ac yn gwersylla efo’i ffrindiau. Fel teulu, rydan ni’n despret i gael unrhyw ddarn o wybodaeth a allai ein helpu ni i ddod o hyd iddo fo.

“Rydan ni’n poeni’n henaid amdano, ac mor ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr sy’n helpu efo’r gwaith o chwilio amdano.

“Rydan ni’n dy garu di, James, felly plis tyrd yn ol yn ddiogel.”