James Corfield
Mae’r chwilio yn parhau am ddyn ifanc, 19 oed, sydd wedi bod ar goll yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd ers nos Lun (Gorffennaf 24).

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn parhau i chwilio’r ardal heddiw am James Corfield.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r heddlu wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y llanc i gysylltu â nhw ar 101.

Ac mae neges ar dudalen Facebook CFfI Maldwyn yn galw ar unrhyw un sydd wedi’i weld neu wedi siarad â’r llanc i gysylltu.

Mae criw o deulu a ffrindiau’r dyn ifanc wedi ymgynnull yn Llanfair ym Muallt y bore yma i gynnal chwiliad ar y cyd â’r heddlu.