Cig oen - Hybu Cig Cymru (llun o wefan HCC)
Fe fydd cynrychiolwyr o ddiwydiant bwyd Cymru yn mynd i gyfarfod yr wythnos hon i geisio amddiffyn dyfodol enwau bwydydd lleol fel Cig Oen Cymru.

Maen nhw wedi rhybuddio fod yr enwau dan fygythiad oherwydd Brexit ac y byddai colli’r warchodaeth Ewropeaidd ar enwau o’r fath yn tanseilio ymdrechion marchnata Cymru.

Mae’r dynodiadau PGI – Dynodiadau Daearyddol wedi eu Gwarchod – sy’n golygu mai dim ond cig oen neu eidion o Gymru all gael eu marchnata dan yr enwau hynny, wedi codi allforion, meddai Hybu Cig Cymru.

Mae’r rhestr PGI hefyd yn cynnwys cynnyrch Ewropeaidd fel siampên, ham Parma a chaws Parmesan.

Cyfarfod ym Melton Mowbray

Yn ôl Hybu Cig Cymru, mae gwerth y cig oen Cymreig sy’n cael ei werthu dramor wedi codi o £57 miliwn i £133 miliwn o fewn deng mlynedd, a hynny’n rhannol oherwydd yr enwau arbennig.

Fe fydd y corff marchnata yn tynnu sylw at y gwahanol ddynodiadau yn y Sioe Fawr yr wythnos hon ac fe fydd swyddogion yn mynd i gyfarfod ym Melton Mowbray ddydd Mercher.

Y bwriad yw sicrhau bod darpariaeth debyg i’r un Ewropeaidd yn cael ei chadw mewn cyfreithiau Prydeinig ar ôl Brexit.

‘Pwysig i farchnata’

“Mae statws PGI wedi bod yn un o gonglfeini ein hymdrechion marchnata,” meddai Owen Roberts a fydd yn cynrychioli Hybu Cig Cymru yn y cyfarfod.

Mae cig oen a chig eidion Cymru wedi cael eu gwarchod ers mwy na deng mlynedd ac, erbyn hyn, mae 14 o gynhyrchion Cymreig ar y rhestr.

Ynghynt eleni, fe gafodd chwech o fwydydd eraill eu hychwanegu at y rhestr – gan gynnwys porc traddodiadol a bara lawr.