Ben Lake, Plaid Cymru Ceredigion (Llun: o gyfrif Twitter Ben Lake)
Mae Plaid Cymru’n cyhuddo’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Michael Gove, o beryglu bywoliaeth cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru a ledled Prydain.

Mewn araith ddoe, dywedodd y Gweinidog na fyddai taliadau amaethyddol yn cael eu gwarantu yn y dyfodol, ac y bydd yn rhaid i ffermwyr gytuno i ddiogelu’r amgylchedd i dderbyn taliadau ar ôl 2022.

Gan na wnaeth gadarnhau manylion na meini prawf polisi o’r fath, dywed Plaid Cymru fod ansicrwydd o’r fath yn ergyd i’r diwydiant amaethyddol.

Wrth ymateb i’r araith, dywedodd llefarydd amaethyddiaeth Plaid Cymru, Ben Lake AS:

“Mae’n ffaith bod ansicrwydd ar gyfer unrhyw fusnes yn wenwynig yn economaidd – a dylai Llywodraeth Prydain wybod yn well na gwneud datganiadau amwys pan nad oes ganddynt gynllun.

“Yr unig beth mae’r datganiad yn ei wneud yw codi bwganod a niweidio hyder y sector.

“Mae ffermwyr yng Nghymru yn dibynnu ar daliadau sydd yn cyfri am 80% o’u hincwm.

“Nid budd-daliad mo’r gefnogaeth ariannol yma ond cefnogaeth i sicrhau parhad diogelwch bwyd ac iechyd ein heconomi.  Mae’n golygu ein bod ni’n gallu parhau i fwynhau’r cynnyrch amaethyddol gorau.

“Mae’n rhaid diogelu taliadau ffermwyr ac mae Plaid Cymru yn mynnu eu bod yn cadw pob ceiniog.”