Hybu Cig Cymru (llun o wefan HCC)
Mae angen i archfarchnadoedd gwledydd Prydain ymrwymo i werthu cig o Brydain yn unig, yn ôl Cadeirydd Da Byw NFU Cymru.

Daw galwad Wyn Evans, sy’n ffermwr bîff a defaid yng nghyffiniau Aberystwyth, yn dilyn cyhoeddiad archfarchnad Morrisons yr wythnos diwethaf eu bod am ymrwymo 100% i werthu cig ffres o Brydain.

Dywedodd Wyn Evans wrth golwg360 y bydd yn cymryd y cyfle yn ystod y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos nesaf i bwyso ymhellach ar yr archfarchnadoedd.

“Mae hwn [Morrisons] yn un o’r rhai mawrion … a gobeithio y gwnaiff roi bach o ddylanwad ar y lleill nawr er mwyn cael mwy o ddeunydd Cymraeg a Phrydeinig ar y silffoedd,” meddai.

Brexit

Ychwanegodd y ffermwr o Geredigion fod sicrhau ymrwymiad o’r fath yn “hollol bwysig” mewn cyfnod o “ansicrwydd” wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd lle mae mynediad di-dariff ar gael ar hyn o bryd i’r Farchnad Sengl.

“Mae hwn yn gyhoeddiad eithaf pwysig… mae’n dod ar amser eithaf ansicr i’r diwydiant, ac mae’n rhaid inni edrych ar y farchnad gartref nawr yn fwy na ni wedi edrych arni erioed,” meddai.

Ychwanegodd fod ymrwymiad o’r fath yn “hollol, hollol bwysig yn yr ansicrwydd wrth inni ddod mas o Ewrop.”

Morrisons

Mae Morrisons wedi cadarnhau y byddan nhw’n “ymrwymo 100%” i werthu cig ffres o Brydain drwy gydol y flwyddyn – gan roi’r gorau i werthu cig oen o Seland Newydd ac Awstralia.

Fel arfer mae archfarchnadoedd yn dueddol o werthu cig oen o Seland Newydd ac Awstralia yn ystod misoedd y gaeaf a’r gwanwyn pan mae’r cyflenwad ym Mhrydain yn isel.

Mae eu cyhoeddiad yn dilyn archfarchnad Co-op sydd hefyd wedi gwneud yr un ymrwymiad, ac mae Marks and Spencer ar hyn o bryd yn gwerthu cig o Brydain am 48 wythnos y flwyddyn.