Cilfach Tywyn (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru)
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Bangor yn rhan o brosiect newydd i geisio darganfod beth sy’n achosi i gocos farw yng Nghilfach Tywyn, Llanelli.

Bydd y prosiect gwerth £3.2 miliwn, hefyd yn edrych ar bysgodfeydd cocos mewn ardaloedd eraill  yn Ewrop, lle mae diwydiannau wedi’i heffeithio gan farwolaethau cocos.

Mae’r ymchwil newydd yn dilyn ymchwiliad i farwolaethau cocos yn 2012 – cafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru – wnaeth fethu ag ateb nifer o gwestiynau’r ymchwilwyr.

Ateb cwestiynau

“Bydd cyllid ar gyfer ymchwiliad newydd yn ceisio mynd i’r afael â llawer o’r cwestiynau nas atebwyd yn adroddiad 2012,” meddai Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, Huwel Manley.

“Byddwn yn elwa o gael mynediad llawn i ddata a gasglwyd yn annibynnol gan wahanol sefydliadau ar draws Ewrop. A byddwn yn ystyried unrhyw dystiolaeth newydd, yn ogystal â thystiolaeth o’n harolygon cocos, i’n helpu i reoli’r pysgodfeydd yn well, yn y dyfodol.”