Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth am glywed profiadau ffermwyr o droseddau gwledig yn y gobaith o lunio cyfarwyddiadau newydd i’r heddlu.
Yn ôl astudiaeth gan yr undeb amaethyddol NFU – mae beiciau cwad, peiriannau fferm a da byw yn eitemau sy’n cael eu targedu’n aml gan ladron mewn ardaloedd gwledig.
Yng Nghymru a Lloegr, gallai cost troseddau gwledig fod yn £800m, yn ôl adroddiad Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol yn 2015.
Am hynny mae holiadur yn cael ei gylchredeg yn ystod mis Mehefin i geisio mynd i’r afael â’r broblem yn ardal Heddlu Dyfed Powys.
‘Gwybodaeth arbenigol’
Un sy’n arwain yr astudiaeth yw Dr Gareth Norris o Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth. Esboniodd eu bod am ddatblygu camau newydd i Heddlu Dyfed Powys fynd i daclo troseddau gwledig, ynghyd â darparu cyngor i ffermwyr.
“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu taw grwpiau troseddau trefnedig sydd yn gyfrifol am lawer o’r lladrata o ffermydd,” meddai Gareth Norris.
“Mae dwyn defaid a gwartheg yn galw am wybodaeth arbenigol am y diwydiant, nid yn unig i ddal a chludo’r anifeiliaid, ond hefyd i’w prosesu a’u gwaredu yn gyflym heb adael ôl troed.
“Ar wahân i’r gost ariannol, mewn rhai achosion mae ffermwyr yn colli anifeiliaid sydd yn ffrwyth cenedlaethau o waith bridio,” ychwanegodd.
Ardaloedd gwledig
Mae’r astudiaeth wedi derbyn cefnogaeth gan undebau amaeth FUW ac NFU ynghyd â Chynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru Cyf.
“Bydd yr arolwg hwn yn cefnogi Heddlu Dyfed-Powys drwy ein galluogi i ddeall y pwysau unigryw sy’n wynebu ardaloedd gwledig, ac yn arbennig y troseddau a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar amaethyddiaeth,” meddai Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn.