Craig ab Iago, Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros bentref Llanllyfni (Llun: Cyngor Gwynedd)
Fe allai Llanllyfni gael ei enwi’n bentref harddaf gwledydd Prydain, diolch i un o’i drigolion.

Ar ei dudalen Facebook, dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru, Craig ab Iago, sy’n cynrychioli’r pentref ar y Cyngor Sir, ei fod e wedi “manajo perswadio” Channel 4 y dylai’r pentref gael sylw’r rhaglen deledu Britain’s Most Beautiful Village.

Dywedodd e mai £10,000 fyddai’r wobr am ennill y gystadleuaeth.

Eglurodd wrth gyhoeddi’r newyddion: “Dwi’n pwsho yr elfen “y pentre mwya Cymraeg/Cymreig yn y byd” felly angen pobl sy efo talents Cymreig.”

Ychwanegodd y gallai’r doniau hyn amrywio o ddawnsio gwerin i wybodaeth am fyd natur, hanes yr ardal, ac enwau lleoedd neu eglwysi’r ardal.

Cystadleuaeth sydd â phwyslais ar bobol leol yw hi, meddai.

Bydd Channel 4 yn ymweld â’r pentref ddydd Mercher, gan eu bod nhw “jesd eisiau gweld beth dan ni’n cynnig yn fama”, meddai.

Llanllyfni

Pentref yn Nyffryn Nantlle yw Llanllyfni, ac mae ei brodorion enwocaf yn cynnwys Bryn Fôn, Cefin Roberts a Wynford Elis Owen.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 85% o drigolion y pentref yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Mae afon Llyfni yn llifo drwy’r pentref chwarelyddol.

Ymhlith ei adeiladau enwocaf mae tafarn y Quarryman’s Arms, a gafodd ei difrodi gan dân rai blynyddoedd yn ôl cyn cael ei dymchwel. Roedd y dafarn yn destun un o ganeuon Sobin a’r Smaeliaid.