Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan y bydd ‘rhybudd tywydd melyn’ mewn grym dros orllewin a de Cymru ddydd Llun.

Mae’n debyg y gallai 40mm i 60mm o law ddisgyn dros lawer o Gymru gyda hyd at 80mm dros dir uchel, gan gynnwys Eryri.

Yn ôl rhagolygon y Swyddfa Dywydd mae llifogydd yn bosib ac mae’n debygol bydd trafnidiaeth ac amodau gyrru yn cael eu heffeithio.

Mae rhybudd tywydd melyn yn golygu bod hi’n bosib fydd y tywydd “yn arw” am ychydig o ddiwrnodau.

Bydd y rhybudd tywydd mewn grym tan 6.00yb ddydd Mawrth, Mehefin 6.