Gyrru gwyllt - un o'r troseddau gwledig (llun parth cyhoeddus)
Mae angen rhagor o arian i heddluoedd gwledig a chosbau trymach i droseddwyr cefn gwlad, meddai undeb ffermio.

Cyn yr Etholiad Cyffredinol, mae NFU Cymru’n galw am ymrwymiad gan bob plaid i fynd i’r afael o ddifri’ â throseddau cefn gwlad.

Maen nhw’n honni bod eu haelodau’n gweld cynnydd mewn troseddau fel dwyn cerbydau ac anifeiliaid, tresmasu a gyrru cerbydau tros dir garw a thaflu sbwriel yn anghyfreithlon.

Yn 2016, fe ddywedodd y cwmni yswiriant NFU Mutual fod troseddau gwledig yn costio £2 filiwn yng Nghymru.

Taro ffermwyr

“Mae troseddu mewn ardaloedd gwledig yn effeithio mwy ar y gymuned ffermio nag ar bobol eraill,” meddai Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig yr undeb, Hedd Pugh, ar ôl cyfarfod o’r Bwrdd ddoe.

“Mae’n costio amser ac arian i ffermwyr a hefyd yn fygythiad i iechyd pobl ac anifeiliaid, i fywyd gwyllt a’r amgylchedd.”

Maen nhw’n galw am newid yn y drefn ariannol er mwyn rhoi mwy o adnoddau i heddluoedd mewn ardaloedd gwledig, er mwyn cydnabod y problemau arbennig.

Maen nhw hefyd eisiau cosbau trymach er mwyn “atal” y troseddau.