Ynys Llanddwyn, Ynys Mon Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar sut i gynnal tirweddau Cymru yn y dyfodol.

Daw hyn yn rhan o waith gweithgor gafodd ei sefydlu i ystyried adroddiad annibynnol yr Athro Terry Marsden ddwy flynedd yn ôl.

Roedd yr adroddiad hwnnw’n cynnwys 69 o argymhellion gan gynnwys ystyried defnydd o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru.

Roedd yn argymell fod angen i Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r holl dirweddau dynodedig helpu rheolwyr tirweddau eraill – gan gynnwys perchenogion tir, ffermwyr a’r gymuned wledig – i fynd i’r afael â bioamrywiaeth, mynediad a gwarchodaeth.

Galw am gydweithio

Mae’r adolygiad heddiw yn cydnabod fod angen mwy o gydweithio rhwng sefydliadau i ddiogelu tirweddau, ac maen nhw’n tynnu sylw hefyd at heriau gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran cyfreithiau a chymorthdaliadau.

“Mae’r gweithgor wedi bod yn pwysleisio’r angen o’r dechrau’n deg am Bartneriaeth sy’n cynnwys pawb o awdurdodau’r parciau cenedlaethol a’r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, o amaethyddiaeth a busnesau twristiaeth, mudiadau gwirfoddol ac ymddiriedolaethau, gyda phawb yn cyfrannu’n gyfartal at y drafodaeth,” meddai Dafydd Elis-Thomas, Cadeirydd Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol.

“Y cam nesaf yw gwireddu’r uchelgais hwn, nid ar ein pen ein hunain, ond gyda’n gilydd mewn partneriaeth,” ychwanegodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig.