Selyf (Llun o wefan Cor Meibion Dwyfor)
Bu farw un o hoelion wyth bonheddig y byd cerdd dant yng Nghymru ddydd Mawrth yr wythnos hon.

Roedd David Griffith Jones (Selyf) yn 93 oed, ac yn dod o bentref Garn Dolbenmaen ger Porthmadog.

Ef oedd un o hyfforddwyr cyntaf Bryn Terfel, ac fe dalodd y canwr opera deyrnged gyhoeddus iddo yn ystod ei anerchiad yn Llywydd Gwyl Cerdd Dant Llyn ac Eifionydd ym Mhwllheli fis Tachwedd y llynedd.

Yn ogystal â hyfforddi a gosod ar gyfer unigolion, Selyf oedd sefydlydd cor cerdd dant Meibion Dwyfor; ac ynghyd â’i ddiweddar wraig Vera, fe fu’n gefnogwr triw i eisteddfod flynyddol pentref y Garn.

Cynhelir ei angladd ddydd Gwener, Mai 5, yng Nghapel Jerusalem, Garn Dolbenmaen.