Keith Crump (chwith) yn gafael yn dynn yng Nghwpan Cymru yn Y Bala (Llun: Ruth Crump)
Mae clwb pêl-droed Y Bala wedi ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes… ac mae’u tim dan-12 hefyd wedi coroni penwythnos gwyl y banc o ddathlu efo buddugoliaeth yn y cwpan cenedlaethol i’w hoedran nhw.

Fe lwyddodd tim dynion Y Bala i guro’r Seintiau Newydd yn stadiwm Nantporth, Bangor o ddwy gol i un ar ôl ildio’r gôl gyntaf. Ond fe ddaethon nhw yn eu holau a rhwystro’r Seintiau rhag codi’r cwpan am y trydydd tro’n olynol.

Hon hefyd oedd buddugoliaeth gyntaf Y Bala yn erbyn y Seintiau.

Mae’r clwb wedi bod yn rhoi’r dref ar y map yn ddiweddar, ac mae wedi chwarae tipyn yn Ewrop… ond ennill Cwpan Cymru ydi’r uchafbwynt i’r clwb.

Keith yn cofio… 

Mae Keith Crump yn ffisiotherapydd efo’r clwb, ac roedd ar y fainc ym Mhort Talbot pan wnaethon nhw ennill eu lle yn Ewrop y tro cyntaf:

“Roedd mynd i Ewrop am y tro cyntaf yn anhygoel,” meddai wrth golwg360. “Mynd  i chwarae yn Estonia, Lwcsembwrg a Sweden yn brofiad hollol wahanol… tref fach ym Meirionydd yn cynrychioli Cymru yn Ewrop!

“Ond rŵan, rydan ni wedi ennill cwpan mwyaf Cymru ac yn erbyn y tîm sydd wedi dominyddu pêl-droed yng Nghymru yn ddiweddar.

“Mae enw Y Bala ar y cwpan rŵan efo Abertawe, Caerdydd a Wrecsam,” meddai Keith Crump. “Diweddglo grêt i’r tymor, yn enwedig ar ôl dechrau tymor digon araf.”

Emosiynol

“Ar ôl ildio’r gôl gyntaf roedd ein hagwedd ni’n dal yn bositif,” meddai Keith Crump wedyn, “ac ar ôl ei gwneud hi’n gyfartal, dw i’n cofio teimlo mai ni oedd am ennill.

“Roedd o’n brofiad emosiynol, a dagrau gan nifer o bobol ar ôl y chwiban olaf.

“Ar ôl y gêm mi arhoson ni yn y’r ystafell newid am tuag awr yn dathlu,” meddai. “Wedyn mi ddathlon ni yn y clwb ac mi deithiodd y cwpan efo ni ar y bws yn ôl i’r Bala. Roedd y pwyllgor a chefnogwyr wedyn yn nhŷ tafarn Plas Coch yn mwynhau a dathlu efo’i gilydd.”

Ac ar ben hyn i gyd – tim dan-12 Y Bala yn cipio pencampwriaeth genedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn erbyn Risga o 5-3 yn Y Drenewydd brynhawn dydd Llun, Mai 1.