Fe all prinder gweithwyr amaeth a garddwriaeth droi’n “argyfwng” os na fydd mwy o weithwyr yn ymuno â’r diwydiant, yn ôl Aelodau Seneddol.
Mewn adroddiad sy’n awgrymu gall ddiffyg llafur arwain at fwyd yn pydru yn y caeau, mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi awgrymu na fyddai amaethyddiaeth yng ngwledydd Prydain yn medru parhau heb weithwyr o dramor.
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, Neil Parish, mae busnesau wedi cael trafferth recriwtio gweithwyr o dramor ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Heb ddigon o weithwyr o’r Deyrnas Unedig ac o dramor, ni fydd busnesau amaethyddol a garddwriaethol yn medru parhau,” meddai Neil Parish.
“Am gyfnod hir mae’r diwydiant wedi dibynnu ar weithwyr o dramor er mwyn llenwi swyddi dros dro a pharhaol er mwyn delio â’r diffyg yn argaeledd llafur o’r Deyrnas Unedig – ni all amaethyddiaeth yn y Deyrnas Unedig barhau heb lafur o dramor.”