Mae gyrr o wartheg o ogledd Cymru wedi gwneud eu marc ar restr o’r ceisiadau yswiriant mwya’ rhyfedd a gwallgof i’w cyflwyno y llynedd.

Mae’r rhestr wedi’i llunio gan y cwmni gwasanaethau yswiriant Ageas, ac yn uchel iawn ar y rhestr mae cais yswiriant am ddifrod gwerth £7,500 i ardd rhywun o ogledd Cymru wedi i yrr o wartheg ddianc o fferm gerllaw.

Mae’r achosion eraill yn cynnwys haid o wenyn yn difrodi ystafell fwyta yng Ngwlad yr Haf, ac iPad yn cael ei olchi ar ddamwain gyda llestri yn ardal Rochester.

“Rydym wedi gweld rhai o geisiadau yswiriant cartref rhyfedd a hynod dros y blynyddoedd, ond roedd 2016 yn cynnwys rhai o’r rhfeddaf eto,” meddai Ant Middle, Prif Weithredwr y cwmni Ageas Retail.