Afon Honddu (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau eu bod yn ymateb i ddigwyddiad “difrifol” o lygredd yn ymwneud â slyri yn afon Honddu yn y de ddwyrain.

Digwyddodd y llygredd wedi i lagŵn yn cynnwys 450,000 litr o slyri ollwng i un o isafonydd Honddu, ac mae’r swyddogion yn rhybuddio am effaith bosib ar nifer o afonydd eraill yn ne ddwyrain Cymru.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn asesu’r safle, a’r effeithiau posib ar afon Mynwy a Gwy.

“O ganlyniad i effeithiau posib yn is i lawr yr afon rydym wedi gweithio’n agos a’n cydweithwyr yn yr Asiantaeth Amgylchedd i fonitro’r sefyllfa gan roi cynlluniau ar waith ar gyfer rheolaeth barhaus y digwyddiad hwn,” meddai Caroline Drayton ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’n apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld arwyddion o’r llygredd i gysylltu â nhw ar 03000 65 3000.