Mae gweld oen yn cael ei eni bellach yn atyniad twristaidd – wrth i ymwelwyr gael gwahoddiad i warchodfa natur i weld “un o ryfeddodau byd natur”.

Cymdeithas Warchod Adar, yr RSPB, sy’n trefnu’r cyfleoedd yn ystod mis Ebrill eleni gyda theithiau o gwmpas eu gwarchodfa yn Llyn Efyrnwy, lle mae mwy na 2,000 o ddefaid beichiog.

Mae’r gymdeithas yn dweud bod ymwelwyr “yn sicr” o weld dafad yn dod ag oen a hyd yn oed yn awgrymu y bydd cyfle i gael profiad ymarferol yn y shed wyna.

“Mae ein sesiwn wyna byw yn RSPB Llyn Efyrnwy yn ddigwyddiad rhagorol i’r teulu cyfan ei fwynhau,” meddai Sioned Jones, Rheolwr Profiad Ymwelwyr RSPB Llyn Efyrnwy.

“Byddwch chi’n gweld un o olygfeydd syfrdanol natur yn agos iawn wrth i chi lenwi eich ysgyfaint gydag awyr iach hyfryd.”

Yn ogystal â chynnig y profiad o weld dafad yn geni oen, fe fydd yna weithgareddau eraill ar gynnig i deuluoedd, gan gynnwys y posibilrwydd o gwrdd â tharw du Cymreig o’r enw Harold.