Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae cwmni gwastraff o Fro Morgannwg wedi colli ei drwydded dros dro  yn dilyn tân sydd wedi bod yn llosgi yno ers dydd Iau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithredu er mwyn atal y cwmni rhag dod â mwy o wastraff i’r safle tan y bydd y gwastraff sydd yno’n barod yn cael ei reoli’n well gan leihau’r peryglon i’r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd.

“Rydym wedi penderfynu gwahardd mewnforio’r gwastraff o dan y drwydded amgylcheddol i’r cyfleuster wedi’i reoleiddio yn Hangars A a B oddi ar brif heol Llanilltud fawr, Llandŵ sy’n cael ei weithredu gan gwmni SiteServ Recycling (SW),” meddai Nadia De Longhi, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Ein prif ffocws ar hyn o bryd yw gweithio’n agos â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Bro Morgannwg i reoli effeithiau’r fflamau, ac rydym wedi cymryd y mesur brys hwn i leihau peryglon pellach o lygredd difrifol,” ychwanegodd.