(Llun: Prifysgol Bangor)
Mae dyfodol ffermio mynydd Cymru “yn y fantol” ar ôl Brexit yn ôl darlithydd Rheolaeth Amgylcheddol Prifysgol Bangor.

Mae’r darlithydd, Eifiona Thomas Lane, hefyd yn cydnabod fod “cyfleoedd newydd” yn wynebu ucheldiroedd Cymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd a chynlluniau fel y Polisi Amaeth Cyffredin.

Am hynny mae hi ac RSPB Cymru a Cynidr Consulting wedi trefnu cynhadledd undydd yn Llanrwst i drafod sut orau i ddefnyddio’r ucheldir yn y dyfodol.

‘Cyfleoedd newydd’

Bwriad y gynhadledd yw dod â ffermwyr, academyddion, cyrff cadwriaethol a swyddogion y llywodraeth ynghyd i drafod dyfodol ffermio mynydd.

“Mewn llawer o ffyrdd, mae dyfodol ffermio mynydd yng Nghymru yn y fantol o ganlyniad i Brexit,” meddai Eifiona Thomas Lane.

“Ond ar y llaw arall mae wedi dod ag amrywiaeth o gyfleoedd newydd yn ei sgil i gryfhau gwytnwch yr ucheldiroedd a’u cymunedau, yn ogystal ag ysgogi cynhyrchu bwyd a rheoli tir mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.

‘Ffermio cynaliadwy’

Fe fydd y gynhadledd yn ystyried pa bosibiliadau sydd ar gael heb y Polisi Amaethyddol Cyffredin sydd wedi’i warantu gan Lywodraeth Prydain tan 2020.

“Hyd yn awr mae polisïau ffermio i raddau helaeth wedi annog dulliau ffermio mwy dwys sydd wedi gwthio natur fwy a mwy i’r ymylon a chyfyngu’r effeithiau amgylcheddol y gall ffermio cynaliadwy eu rhoi,” meddai Arfon Williams, Rheolwr Defnydd Tir RSPB Cymru.

“Yr her i ffermio mynydd yw cyflawni hyn, ochr yn ochr â chynhyrchu symiau cynaliadwy o fwyd o ansawdd uchel a nwyddau eraill.”

Y gynhadledd

Mae siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys

  • Kevin Austin, Pennaeth Strategaeth Amaethyddol Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro Peter Midmore, arbenigwr Economeg Amaethyddol Prifysgol Aberystwyth
  • Hefin Jones a Tony Davies, cynrychiolwyr Tegwch i’r Ucheldir.

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar Fawrth 15 yng Nghanolfan Busnes Plas yn Dre, Llanrwst.